dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
MINGRWN COCH GYDA GORGIMYCHIAID MAWR gan Craig Gammon

MINGRWN COCH GYDA GORGIMYCHIAID MAWR gan Craig Gammon

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4

CYNHWYSION

8 ffiled mingrwn coch ( 2 yr un)
12 corgimychiaid mawr (3 yr un)
25g menyn
25g cennin wedi’i ffrio’n grisp - i’w addurno

PESTO BASIL
250g basil
25g olifau du – heb yr hadau
2 ewin o arlleg
25g cnau pîn – wedi’u tostio
Pinsiad halen
Pinsiad pupur
1 sprigyn o rosmari
25g caws parmesan ffres
2 ffiled o ansiofi tun
½ peint olew olewydd

FINAG BALSAMIC
250ml fineg balsamic
50g siwgr


COULIS TOMATO
4 tomato – wedi’u chwarteri
1 winwnsyn bach – wedi’i dorri
100g siwgr caster
1 sprigyn o teim
1 ewin o arlleg
500ml sudd tomato
Halen
Pupur
250ml olew olewydd
DULL
Y SAWS

Ffrio’r winwns a’r tomatos am 2 funud mewn sospan, ychwanegu’r garlleg, teim, siwgr a’r sudd tomato a dod a’r cyfan i’r berw yna ei leihau i hanner y maint nes iddo dewhau. Ychwanegu ychydig o’r olew yn ofalus ac yn araf i osgoi gwahanu’r saws. Gosod naill ochr mewn powlen neu potel blastig.

Gwneud 3-4 toriad ar draws croen y pysgod a’u iro gyda ½ y menyn. Gosod y pysgod ar dun pobi wedi iro gyda menyn a’i osod dan y gril am 3-4 munud pob ochr.

Yn y cyfamser cynhesu ychydig o fenyn mewn padell ffrio a choginio’r gorgimychiaid am 2 funud bob ochr nes iddynt droi’n binc.

PESTO BASIL

Rhoi y cyfan mewn prosesydd bwyd a’u prosesu hyd nes yn llyfn, gan ychwanegu’r olew yn ofalus ac yn araf ar y diwedd.

FINEG BALSAMIC

Cynhesu’r ddau mewn sospan a’i leihau.


I’W WEINI

Gosod un darn o’r pysgodyn ar ganol y plât, rhoi 3 o’r corgimychiaid ar ei ben ac yna un darn arall o bysgodyn ar ben y corgimychiaid.

Gan ddefnyddio llwy, neu potel blastig, addurno ochrau’r plât gydag ychydig o’r pesto, yna y coulis a gorffen gyda’r fineg.

I’w addurno gyda llwyed o gennin wedi’i ddwfn ffrio ar ben y pysgod.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY