dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
SGIWERAU MAELGI A CHAWS HALOUMI GYDA MINT

SGIWERAU MAELGI A CHAWS HALOUMI GYDA MINT

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4

CYNHWYSION

12 sgiwer bambŵ
2 ffiled maelgi – wedi’u torri’n giwbiau mawr
1 pînafal – tynnu’r croen a’r darn gwydn yn y canol, yna torri’r pinafal yn gwibiau
250g caws haloumi – ei dorri’n giwbiau yr un maint a’r pysgod
24 dail mint

SALSA
2 llwy fwrdd olew corn
2 chili mawr coch – wedi’u torri’n fân
1 leim – croen wedi’i gratio fân a sudd yn unig
1 llwy de siwgr
Dyrned dda o ddail mint – wedi’i torri
4 tomatos – tynnu’r croen a’r hadau a’u torri’n fras
3 llwy fwrdd olew pysgneuen, corn neu cneuen ddaear
DULL
Gosod y sgiwerau mewn dŵr oer am 30 munud er mwyn osgoi llosgi’r pren neu’r bambŵ yn hwyrach.

SALSA
Cynhesu’r olew mewn padell a choginio’r chili am 2-3 munud, ychwanegu’r siwgr a’i dwymo hyd nes iddo doddi.

Rhoi’r tomatoes mewn powlen fawr ac arllwys y chili a’r siwgr dros y tomatos.

Ychwanegu croen a sudd y leim, dail mintys, gweddill yr olew a’u cymysgu’n dda.

Rhoi darnau o’r maelgi, pînafal, caws a’r dail mint ar y sgiwerau a’u grilio ar y barbeciw neu gridl poeth hyd nes i’r pysgod goginio trwyddo a’r pînafal a’r caws frownio ychydig – rhyw 6-8 munud.

Gweini’r sgiwerau ar blât gyda’r salsa.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY