DULL
Rhoi’r halen a pupur dros yr eog.
Cynhesu’r olew mewn padell ffrio a choginio’r eog – ochr y croen yn gyntaf am oddeutu 2 funud. Troi’r eog a’i goginio am 1-2 funud arall ac yna ei dynnu a’i roi ar blat i orffwys.
Ffrio’r shalot yn y ffreipan hyd nes yn feddal ac yna arllwys y stoc i fewn, ei ferwi’n isel a’i leihau hyd nes ei fod yn hanner y maint gwreiddiol.
Rhoi sudd a croen y lemwn i fewn yna’r hufen a’i ferwi'n isel am funud cyn ychwanegu’r persli a’r menyn.
Cymysgu’r pasta i fewn i’r saws a’i orchuddio i gyd.
Gweini pasta ar blât cynnes a gosod yr eog ar ei ben.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley