dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PYSGOD TARTAR Y GŴYR

PYSGOD TARTAR Y GŴYR

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4

CYNHWYSION

2 ffiled o ddraenog y môr – tynnu’r esgyrn a’r croen
8 sgolpiau – wedi’u glanhau
200g cocos
1 dyrned o gorn carw’r môr
½ winwynsyn coch
½ mango – tynnu’r croen a’r garreg
½ papaia - tynnu’r croen
3 llwy fwrdd olew olewydd coeth
Halen y môr
Pupur du
2 lwy fwrdd o ddail coriander – wedi’u malu’n frâs
1 leim – sudd yn unig
100 ml hufen dwbl – wedi’i guro
2 lwy fwrdd o fodca – neu yn ôl blas personol
2 leim - addurn
DULL
Torri’r pysgod yn giwbiau bach,

Torri’r winwynsyn yn fân, torri’r mango a’r papaya yn giwbiau o’r un maint a’r pysgod a’u rhoi mewn powlen fawr.

Ar y funud olaf, cyn gweini, ychwanegu’r pysgod i’r powlen gydag olew yr olewydd, halen a phupur, dail coriander, corn carw’r môr a’r sudd leim.

Gosod haenen denai ar y platiau, neu gosod mowld siap cylch ar y plât a gwasgu y gymysgedd i mewn i’r cylch a’i mowldio gyda cefn llwy.

Curo’r hufen nes iddo dewhau yna ychwanegu’r fodca.

Gweini’r tartar gyda llwyed o hufen fodca a chwarteri o leim.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY