DULL
Cynhesu’r olew ar gyfer ffrio dwfn i 180ºC/350ºF/Gas 4.
Paratoi y cytew: hidlo’r blawd a’r halen i mewn i bowlen. Gwewch gylch yng nghanol y cymysgedd ac arllwys yr olew a’r cwrw i fewn yna cymysgwch y blawd i fewn yn ofalus.
Trowch y gwyn ŵy tan ei fod yn stiff a’i blygu i fewn i’r cytew.
Gorchuddio’r pysgodyn gyda’r blawd sydd wedi ei sesno a’i dipio yn y cytew – gadewch i ddraenio ychydig yna’i ollwng yn ofalus i’r olew poeth.
Ei ffrio tan fod y cytew yn troi’n liw euraidd ac yn arnofio yn yr olew.
Ei dynnu o’r olew a’i draenio ar bapur amsugno.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley