DULL
Cynheswch yr olew mewn padell digon o faint. Ychwanegwch y winwnsyn a'i feddalu o dan gaead er mwyn ei chwysu heb roi lliw. Ychwanegwch y stoc a dewch â'r cyfan i'r berw cyn ychwanegu'r pys, halen a phupur. Berwch am 2 -3 munud. Ychwanegwch y mintys, yr hufen a phrofwch am sesnad (seasoning) eto (ychwanegwch y sudd lemwn os yn ei ddefnyddio). Gadewch i'r gymysgedd oeri cyn ei chwyrlio nes yn llyfn. Gallwch fwyta'r cawl yn boeth neu'n oer gyda diferyn o hufen neu créme fraiche.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley