dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PASTAI CYW IAR, HAM<BR>A THARAGON

PASTAI CYW IAR, HAM
A THARAGON

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I :

CYNHWYSION

280g/10 owns o ham - wedi'i dorri'n giwbiau
280g/10 owns o gyw iâr - wedi'i dorri'n giwbiau
280g/10 owns o datws - wedi'u torri'n giwbiau
3 llwy fwrdd o olew olewydd
1½ winwnsyn - wedi'u torri
1 ewin o arlleg - wedi'i dorri
2 lwy fwrdd o taragon - wedi'i dorri
croen 1 lemwn
halen a phupur
1 wy - wedi'i guro
1 pecyn mawr o grwst pwff

saws béchamel
570 ml/1 peint o laeth cyflawn
50 g/2 owns o flawd plaen
50 g/2 owns o fenyn
DULL
Paratowch y saws béchamel gyda'r llaeth cynnes, menyn a blawd plaen. Cynheswch yr olew a choginiwch y winwns a'r garlleg nes yn feddal. Mewn bowlen fawr, cymysgwch y cig, tatws, winwns a'r garlleg gyda'r bechamel, croen lemwn, taragon, halen a phupur. Rholiwch y toes a thorrwch gylchoedd maint soser ohono. Rhowch lwyed dda o'r gymysgedd ar un ochr o'r cylch, brwsio ymyl y toes gyda'r wy a phlygu'r toes i greu pastai daclus. Brwsiwch gyda wy a gwnewch dau doriad bach yng nghanol y bastai i waredu'r stem wrth ei goginio. Coginiwch am 15 munud ar wres o 160C.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY