dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PWDIN LLUS DUON BACH

PWDIN LLUS DUON BACH

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I :

CYNHWYSION

50g/2owns o siwed
170g/6 owns o flawd codi
140g/5 owns o siwgr
140g/5 owns o llus
llaeth
ychydig o flawd plaen
DULL
Cymysgwch y blawd, siwet, 3 owns o siwgr a'r llaeth i wneud cymysgedd eithaf sych. Rholiwch y toes allan ar y bwrdd i faint 12" x 6" a rhoi'r llus arno mewn un haen. Rhowch gawod dda o siwgr ar y top (tua 2 owns) a'i rolio i siâp rôl Swiss, yna ei drosglwyddo i gadach tamp, gyda haen ysgafn o flawd plaen arno. Rholiwch y toes yn y cadach a'i glymu gyda chortyn ar bob pen i greu parsel taclus. Rhowch mewn sosban fawr o ddwr berwedig am 45 munud, gan ofalu cadw'r dwr i ferwi drwy gydol yr amser. Codwch y pwdin allan, ei dynnu o'r cadach yn ofalus a'i weini gyda siwgr a llaeth cyflawn neu hufen.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY