DULL
Cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr a choginio'r cig fesul tipyn nes yn frown. Tynnwch y cig allan o'r badell a'i roi ar blât. Ychwanegwch y winwns a'r garlleg a'u coginio nes yn feddal, yna ychwanegwch y madarch a'u ffrio am ryw 10 munud. Ychwanegwch y saets, gwin coch a'r passata a hanner y persli ffres. Ychwanegwch y cig at y cymysgedd yma, ei gymysgu, rhoi caead ar y sosban a'i bobi mewn popty poeth am awr. Cyn gweini'r caserol, ychwanegwch fwy o bersli a'r darnau o ham sydd wedi eu coginio'n grimp.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley