DULL
Torrwch y planhigyn wy yn dafelli tenau a'u ffrio mewn olew olewydd nes yn frown golau. Ychwanegwch halen a phupur ac ychydig o finegr balsamaidd, a'u ffrio am ychydig. Gwnewch yr un peth gyda'r tomatos, ond does ond angen cynhesu'r rhain am funud. Gadewch i oeri'n dda. Torrwch ddail y basil yn fân a'u cymysgu gyda'r caws mascarpone a'r parmesan ffres. Wrth adeiladu'r tian, rhowch y darnau mwyaf ar y gwaelod yna lwyaid o'r cymysgedd caws, darn o domato, a rhagor o gaws. Ailadroddwch y broses gan ddefnyddio darnau llai o blanhigyn wy a thomato bob tro i greu twr lliwgar. Gallwch gadw'r tian yn yr oergell am ddwy awr cyn ei weini. Neu gallwch baratoi'r cynhwysion ddiwrnod ymlaen llaw a'u cadw yn yr oergell.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley