dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
ROULADE SAMWN

ROULADE SAMWN

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I :

CYNHWYSION

110g/4owns o eog Cymreig - wedi ei botsio 100 g/3½ owns o gaws hufen
275ml/½peint o hufen curo
1 pecyn o eog Glangwili - wedi'i fygu
1 bwnsied o fasil neu ddil neu daragon
250g/9owns o gorgimychiaid
1 pupur coch - wedi'i rostio
sudd ½ lemwn
pupur du
halen mon
DULL
Cymysgwch yr hufen wedi ei guro a'r caws hufen mewn bowlen. Ychwanegwch y perlysiau ffres rydych wedi eu dewis a'u cymysgu'n dda gyda'r hufen a'r caws. Taenwch ddarn o gling ffilm ar y bwrdd ac yna gosodwch y samwn yn daclus arno i greu un haenen o bysgod heb dyllau - mae'n bwysig ymestyn un darn o samwn dros ymyl y llall i greu gwely perffaith i'r llenwad. Taenwch haenen o'r hufen dros y samwn. Yna gosodwch wely o gorgimychiaid, rhedwch res o bupur coch wedi'i rostio i lawr canol y pysgod, gan osod darn o'r samwn wedi'i goginio ar ben y pupur. Gyda'r pupur yn rhedeg o'r chwith i'r dde, gafaelwch yn y cling ffilm a thynnwch y samwn tuag atoch a fydd yn sicrhau bod y pupur yn rhedeg i lawr canol y parsel ac yn creu siâp silindr. Gwnewch yn siwr bod y parsel wedi'i lapio'n dynn yn y cling ffilm. Gadewch i sefyll yn yr oergell dros nos cyn ei dorri'n haenau trwchus a'i weini gyda lemwn ffres.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY