dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CYRRI CYW IAR OER

CYRRI CYW IAR OER

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I :

CYNHWYSION

1 cyw iâr gyfan
1 winwnsyn - torri yn giwbiau
1 darn o helogan
1 moronen
2 lwy de o bowdwr cwmin
1 deilen bae
halen môn
pupur du
blawd plaen - i drwchu

y cyrri

1 llwy ffwrddo olew sesami
1 winwnsyn - torri'n fân
2 ewin o arlleg - wedi'u sleisio
½ tun o laeth coconyt
1 jar o mayonnaise
darn 1" o sinsir
2 chilli coch
pâst cyrri gwyrdd
½ llwy fwrdd o saws pysgod thai (nam pla)
1 bwnsied o goriander ffres
croen 1 oren
DULL
Mewn sosban fawr o ddwr, berwch y cyw iâr, winwnsyn, seleri, moronen, powdwr cwmin, y ddeilen fae a'r halen a phupur. Gadewch i ffrwtian am ryw awr a hanner (nes bod y cyw wedi coginio). Tynnwch y cyw iâr o'r sosban a gadewch i oeri. Chwyrliwch yr hylif nes yn llyfn, ychwanegwch flawd a dwr i'w drwchu a gadewch i'r stoc oeri. Cynheswch yr olew a ffriwch y winwns tan ei fod yn feddal. Ychwanegwch y garlleg, sinsir, a'r chilli a choginiwch am ryw 3-5 munud. Ychwanegwch y saws pysgod a'r pâst cyri a'i droi cyn ychwanegu'r llaeth coconyt. Berwch y cyfan a'i leihau tan ei fod yn drwchus. Gadewch i oeri. Tynnwch yr esgyrn o'r cyw a thorrwch yn ddarnau hawdd i'w bwyta. Trosglwyddwch gymysgedd y cyrri i fowlen gymysgu fawr ac ychwanegwch y goriander, mayonnaise, y stoc, croen yr oren, a'r cyw iâr a'i gymysgu'n dda. Gweinwch yn oer.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY