DULL
Gwahanwch ben cyfan o arlleg a'i stwffio i mewn i'r wydd ynghyd â bwnsied o deim. Priciwch y croen â fforc a rhwbiwch halen a phupur drosto. Rhowch ar rac dros dun rhostio a rhostiwch yr wydd am 20 munud y pwys gan ychwanegu 20 munud ar y diwedd. Torrwch wddf yr wydd yn ddarnau a'u brownio mewn padell gydag ychydig o olew yr olewydd. Ychwanegwch lwyaid reit dda o biwrî tomato a'i goginio am 2/3 munud. Yna arllwyswch i sosban fawr gyda dau winwnsyn neu 2 shibwnsyn mawr, 2 oren wedi'u torri, 2 ddarn o seleri wedi'u torri a 2 genhinen wedi'u torri, deilen lawryf a chlf o arlleg, a'i orchuddio gyda dwr. Coginiwch yn araf am ryw dair awr i greu'r stoc. Ar gyfer y saws, arllwyswch joch reit dda o armagnac i sosban, 4 prwnsen a pheint o'r stoc ffres. Dewch â'r cyfan i'r berw a'i leihau ychydig.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley