dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
COLOMEN WEDI'I STWFFIO

COLOMEN WEDI'I STWFFIO

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 14

CYNHWYSION

4 colomen
100 g/3 ½ owns o reis gwyllt
120 g/4 owns o foie gras amrwd
2 lwy fwrdd o fêl
¾ litr/1½ peint o finegr seidr
¾ litr/1½ peint o stoc
meryw (juniper berries) - wedi eu malu'n fân
sinamon
cwmin
pupur du
halen
pupur gwyn
menyn
gorthyfail (chervil)
DULL
Tynnwch esgyrn y colomennod, rhowch bupur a halen y tu mewn iddynt a'u stwffio gyda'r reis wedi ei goginio a thamaid bach o'r foie gras. Caewch bob colomen a'u clymu. Seliwch y golomen mewn padell gyda'r menyn - a'u ffrio nes eu bod yn felyn frown cyn eu rhoi yn y popty am 12 - 15 munud ar wres o 200°C. I wneud y saws, lleihewch y mêl gyda'r finegr a'r sbeisys. Yna, ychwanegwch y stoc ac yna'r halen a'r pupur os oes angen. Tynnwch y cortyn oddi ar y golomen a'i gosod ar blatiau cynnes - taenwch â'r saws ac wedyn y garnais - gorthyfail neu berlysiau gwyrdd arall.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY