DULL
Rhowch halen a phupur dros y cig, yna ei frownio mewn menyn ac ychydig o olew yr olewydd. Rhostiwch mewn ffwrn boeth am 15-20 munud os am gig goch. Tynnwch y cig allan o'r tun rhostio a'i adael i sefyll. Mewn padell fach, ffriwch 1/2 y winwnsyn coch gyda 2 owns o fadarch gwyllt. Trosglwyddwch i'r tun rhostio ac ychwanegwch y gwin a'r madeira a'i leihau ychydig cyn ychwanegu'r stoc a'i goginio am ddeg munud. Cyn gweini'r saws, ychwanegwch yr hufen. Toddwch ychydig o fenyn mewn padell lân a choginiwch 4 owns o fadarch gwyllt a fydd yn wely i'r cig ar ôl i chi ei dorri. Coginiwch y tatws newydd, tynnwch allan o'r dwr berw a'u haneru. Mewn powlen, cymysgwch y tatws gyda bwnsied dda o ferwr y dwr ac ychydig bach o fenyn. Bydd gwres y tatws yn cynhesu'r berwr y dwr ond bydd yn dal yn gras wrth ei fwyta. Coginiwch y darnau o flodfresych mewn dwr a halen. Pan maent wedi eu coginio, trosglwyddwch i fowlen gyda thomatos bach wedi'u haneru, ychwanegwch bupur du a chnau almonau wedi'u rhostio a diferyn o hufen. Cymysgwch y cyfan a'i weini.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley