dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PWDIN 'DOLIG O'R POPTY PING

PWDIN 'DOLIG O'R POPTY PING

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I :

CYNHWYSION

75 g/3 owns o flawd gwenith cyflawn
1 llwy de o sbeis cymysg
1 llwy de o sinamon mân
½ llwy de o nytmeg - wedi'i gratio
sudd 1 lemwn a'i groen - wedi'i gratio'n fân
50 g/2 owns o hufen coconyt - wedi'i gratio
75 g/3 owns o friwsion bara gwenith cyflawn
50g/2 owns o siwgr muscavado
100 g/4 owns o foron - wedi'u gratio
1 afal - wedi'i gratio
100 g/4 owns resins
100g/4 owns cyrains
100 g/4 owns syltanas
50 g/2 owns datys
30 ml/1 owns hylif o molases
2 wy
45 ml/1½ owns hylif o frandi
3 llwy de o bowdwr coco
DULL
Cymysgwch yr holl gynhwysion gyda'i gilydd mewn powlen. Gorchuddiwch y bowlen gyda chling ffilm a'i adael dros nos. Cymysgwch y cynhwysion eto cyn arllwys i bowlen 2 beint/1.2 litr sy'n addas i'r popty ping, ei orchuddio â chling ffilm ac yna gwnewch dyllau ar dop yr haenen lynu cyn ei goginio. Coginiwch ar wres uchel am 5 munud mewn peiriant 600w, 4 munud ar 700w, yna ei adael i sefyll am 5 munud. Adroddwch y broses yma deir gwaith. Pan yn barod i'w fwyta, ail gynheswch y pwdin am 5 munud a'i weini gyda saws hufen a brandi.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY