dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
ROULADE SIOCLED

ROULADE SIOCLED

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I :

CYNHWYSION

100g/4owns o siwgr mân
4 wy - wedi'u gwahanu
225 g/8owns o siocled plaen

llenwad
275 ml/½ peint o hufen dwbl
225 g/8 owns o biwrî cnau castan
4 lwy fwrdd o siwgr eisin
2 lwy fwrdd o frandi
DULL
Curwch 4 melyn wy gyda 100g o siwgr mân tan ei fod fel hufen. Toddwch y siocled mewn bowlen dros sosban o ddwr berw. Yn ofalus, arllwyswch y siocled i fewn i'r cymysgedd siwgr ac wy a'u curo'n dda. Curwch y gwyn wy tan ei fod yn gadarn. Yna cymysgwch yn ysgafn i'r cynhwysion eraill a'u cymysgu'n dda. Leiniwch dun pobi gyda phapur gwrthsaim a'i iro gydag olew, cyn arllwys y cymysgedd arno a'i bobi am 15-20 munud ar wres 180°C. Llenwad Curwch yr hufen yn dda. Cymysgwch y piwre i fewn i'r hufen. Cymysgwch y siwgr at yr hufen a'r piwre. Yn olaf ychwanegwch y brandi a'u cymysgu'n dda. Trowch y gacen allan ar ddarn o bapur gwrthsaim sydd ag ychydig o siwgr mân drosto. Tynnwch y papur gwrthsaim o waelod y gacen, yna taenwch haenen reit dda o'r hufen drosto cyn ei rolio i greu siâp yn debyg i swis-rôl. Addurnwch y gacen yn ôl eich dewis, gydag hufen neu siocled wedi toddi.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY