dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
BRECWAST 'DOLIG

BRECWAST 'DOLIG

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I :

CYNHWYSION

4 wy
50 ml/1¾ owns hylif o hufen dwbl
15 g/½ owns o fenyn heb ei halltu
200 g/7 owns o samwn wedi'i fygu
½ llwy fwrdd o ddil ffres wedi'i dorri'n fân
lemwn ffres - os oes angen
pupur du
DULL
Toddwch y menyn mewn sosban. Curwch yr wyau ac arllwyswch i fewn i'r sosban sydd ar wres isel gan eu troi yn gyson i arbed llosgi a lympiau mawr. Pan fydd yr wyau yn dechrau tewhau, arllwyswch yr hufen i fewn wrth gymysgu a'i droi tan ei fod o'r trwch rydych chi'n ei ddymuno. Torrwch y samwn yn stribedi a'u cymysgu yn yr wyau. Torrwch ddarnau o ddil ffres a'u hychwanegu i'r wyau ynghyd ag ychydig o bupur du. Does dim angen halen yn y rysáit yma gan fod y samwn ychydig bach yn hallt. Mae'n bwysig cofio fod samwn wedi'i fygu yn amrywio mewn blas, felly blaswch y pysgodyn cyn cychwyn coginio a phenderfynwch chi os oes angen halen ai peidio.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY