dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CAWL THAI O GYW IÂR A NWDLS

CAWL THAI O GYW IÂR A NWDLS

CATEGORI : CAWL

DIGON I : 2

CYNHWYSION

2 frest cyw iâr - wedi eu torri'n stribedi
2 lwy fwrdd o olew sesami
570 ml/1 peint o stoc cyw iâr
darn 2.5 cm/1" o sinsir ffres - wedi'i sleisio'n denau
3-4 madarch - wedi eu torri'n chwarteri
3 ewin o arlleg - wedi eu sleisio
2 chilli bach coch (poeth)
sudd 1 leim
1 llwy fwrdd o saws pysgod thai (nam pla) neu saws soy ysgafn
nwdls ffres neu 1 haenen o nwdls reis thai sych

i weini
2 ddeilen tsieineaidd
2 shibwnsyn - wedi'u torri'n fân
dyrnaid o goriander ffres - wedi'i dorri'n fân
dyrned o beansprouts heb eu coginio
diferyn o saws chilli a garlleg twym
DULL
Mewn sosban fawr neu wok, cynheswch yr olew a ffriwch y cyw iâr. Ychwanegwch y sinsir a'r garlleg a'u coginio'n ysgafn. Ychwanegwch y madarch, y stoc, chilli, sudd leim a'r nam pla. Cymysgwch y cyfan yn drwyadl cyn ychwanegu'r nwdls. Mudferwch am 4 munud nes bydd y nwdls wedi coginio. Gosodwch y dail tsieineaidd yng ngwaelod dysgl weini ac arllwyswch y cawl twym drostynt. Cyn gweini, addurnwch gyda'r shibwns, y coriander, y beansprouts a diferyn o saws chilli.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY