DULL
Mewn sosban fawr, browniwch y cig eidion yn yr olew. Ychwanegwch binsied o bupur du, paprika, powdr chilli a'r ciwbiau stoc a cymysgwch yn dda. Ychwanegwch y winwns a'r garlleg a choginiwch nes yn frown. Cymysgwch y biwrî i fewn i'r gymysgedd a choginiwch am ychydig o funudau cyn ychwanegu'r siwgr, tomatos, chillis, dwr a'r cwmin. Cymysgwch y cyfan yn dda a berwch yna mudferwch am 1 awr. Ychwanegwch y tatws a'r ffa a mudferwch y cyfan am 30 munud ychwanegol. Ychwanegwch y sudd leim cyn gweini. Gweinwch gyda reis neu ddarnau o fara ffres, llwyed o hufen sur a choriander ffres.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley