dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
RATATOUILLE

RATATOUILLE

CATEGORI : PRYDAU LLYSIEUOL

DIGON I : 4 - 6

CYNHWYSION

1 lwy fwrdd o olew olewydd
2 ewin o arlleg
1 winwnsyn
1 planhigyn wy
3 corbwmpen
1 pupur coch - wedi'i dorri yn giwbiau
1 pupur melyn - wedi'i dorri yn giwbiau
2 lwy fwrdd o biwrî tomato
8 tomato ffres
6 shibwnsyn - wedi torri'n fân
1 bwnsied o goriander - torri'n fân
halen môn
pupur du
DULL
Mewn ffreipan mawr, ffriwch y winwns a'r garlleg yn yr olew am 3-4 munud i'w meddalu. Torrwch y planhigyn wy yn chwarteri ar ei hyd a thynnwch yr hadau o'r canol a'i dorri i giwbiau. Torrwch y courgette yn yr un modd a'i hychwanegu i'r ffreipan. Ychwanegwch halen, pupur a'r piwre tomato a'u brownio. Ychwanegwch y darnau o bupur coch a phupur melyn a choginiwch y cyfan gyda'i gilydd. Ar ôl tynnu croen y tomatos, torrwch y tomatos yn chwarteri a thynnwch yr hadau allan. Rhowch y tomatos mewn powlen fawr, ychwanegwch y cynhwysion twym o'r ffreipan ynghyd â'r shibwns a'r goriander. Gallwch ychwanegu ychydig o finegr Balsamic os ydych yn dymuno. Cymysgwch y cyfan yn dda a'i weini. Gweinwch gyda 'Bulgar Wheat' yn dwym neu yn oer.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY