DULL
Y saws.
Mewn sosban neu ffreipan ddwfn, ffriwch y winwns yn yr olew. Ychwanegwch y piwrî tomato nes eu bod wedi brownio. Arllwyswch y stoc a'r tomatos i mewn a gadewch i leihau am 10 munud.
Y cyw iâr.
Ffriwch y winwns yn yr olew a gadewch i oeri. Mewn bowlen fawr, cymysgwch y cyw iâr wedi'i finsio gyda'r winwns, saets a'r halen a phupur. Ychwanegwch yr wy i feindio'r cyfan at ei gilydd. Cymysgwch yn dda cyn siapio'r gymysgedd yn beli bychan a'u rholio mewn ychydig o flawd. Ffriwch y peli cyw iâr nes yn frown.Trosglwyddwch y peli at y saws tomato a mudferwch am 5 munud. Gweinwch gyda digonedd o datws stwmp neu basta.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley