dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TIWNA A PHASTA POB

TIWNA A PHASTA POB

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4 - 6

CYNHWYSION

1 winwnsyn - wedi'i torri'n fân
2 foronen - wedi eu sleisio yn denau
½ brocoli - wedi'i dorri fân
6 madarch - wedi eu sleisio'n denau
1 tun mawr o diwna
30g/1 owns o basta (o'ch dewis) - wedi coginio
30g/1 owns o friwsion bara ffres
halen môn
pupur du

y saws béchamel
570ml/1 peint o laeth cyflawn
50g/2 owns o flawd plaen
50g/2 owns o fenyn
50g/2 owns o gaws (o'ch dewis) - wedi'i gratio
pinsied o nytmeg
1 llwy de o bowdr mwstard saesneg
DULL
Paratowch y saws béchamel mewn sosban ar wres cymedrol drwy doddi'r menyn a chymysgu'r blawd i mewn. Ychwanegwch y llaeth yn raddol a chymysgwch nes ei fod yn llyfn. Yna, ychwanegwch y caws, nytmeg, powdr mwstard a halen a phupur i flasu. Mewn dysgl fawr hirsgwar, gosodwch haenau o winwns, moron, brocoli a madarch. Ychwanegwch haenen o diwna a'r pasta (wedi coginio). Arllwyswch y saws dros y cyfan cyn ychwanegu trwch o friwsion bara. Pobwch yn y ffwrn ar dymheredd o 180C am 30 munud nes yn frown. Gweinwch gyda llysiau o'ch dewis.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY