DULL
Irwch dun 20cm gydag ochr â sbring â menyn a rhowch bapur gwrth saim ynddo fel leinin. Paratowch y crwst, gan hufennu'r siwgr, y melyn wy a'r croen lemwn mewn bowlen. Ychwanegwch y blawd a chymysgwch tan ei fod yn does llyfn. Os yw'n ludiog, ychwanegwch ychydig mwy o flawd. Rhowch haenen lynu o amgylch y toes a'i adael i oeri am 20 munud. Rholiwch y toes dros waelod y tun - bydd trwch y toes tua 5mm. Trimiwch y toes â chyllell a rhowch unrhyw grwst sy'n weddill o'r neilltu. Rhowch y tun at ei gilydd a choginiwch mewn popty wedi'i gynhesu i wres o 150C/300F/Nwy Marc 2 am 20 munud tan ei fod wedi lled goginio. Gadewch i'r crwst oeri. Newidiwch dymheredd y popty i 140C/275F/Nwy Marc 1. I wneud llenwad y gacen gaws, cymysgwch y caws, y melyn wy a'r croen lemwn mewn bowlen. Curwch yr wy tan yn stiff, ac yna curwch y siwgr a'r blawd i mewn yn raddol. Plygwch y cymysgedd gwyn wy i'r cymysgedd a rhowch yn y crwst yn y tun. Taenwch gyda 2 lwy fwrdd o lus a choginiwch ar silff ganol y popty am 1 awr tan ei fod yn galed i'w gyffwrdd. Gadewch iddo oeri. Cyn gweini, addurnwch gyda phentwr o'r ffrwythau sy'n weddill, ambell ddeilen fintys a thaenwch siwgr eisin yn ysgafn drosto. Gweinwch gyda hufen.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley