dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CIG OEN GYDA SAWS LLUS

CIG OEN GYDA SAWS LLUS

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I :

CYNHWYSION

4x150g/9owns o stecen coes oen cymreig
1 llwy fwrdd o olew llysiau
125 g/4½ owns o winwnsyn - wedi'i dorri'n ddarnau
50 ml/2 owns hylif o finegr mafon
1 llwy de lefel o puprennau - wedi malu
120 ml/4 owns hylif o sudd oren ffres
1 llwy fwrdd o jeli cwrens coch
120 ml/4 owns hylif o win gwyn panteg
1 llwy fwrdd o biwri tomato
150 ml/ 5 ½ owns hylif o ddwr
110 g/4 owns o llus ffres
3 darn o groen oren
halen mon
pupur du
DULL
Twymwch yr olew mewn padell ffrio, rhowch halen a phupur ar y cig oen a choginiwch yn yr olew tan ei fod wedi brownio drosto. Rhowch y cig o'r neilltu ac ychwanegwch y winwns a'r garlleg i'r badell gan eu coginio tan yn feddal. Yna ychwanegwch y puprennau a'r finegr. Gadewch i'r cymysgedd hwn leihau bron yn llwyr cyn ychwanegu'r sudd oren, y jeli cwrens coch a'r gwin. Ychwanegwch y piwri tomato, croen yr oren a hanner y llus. Gadewch iddynt fudferwi cyn ychwanegu'r dwr. Ychwanegwch halen a phupur a rhowch y cig oen nôl yn y badell. Rhowch gaead ar y cwbl a choginiwch mewn popty ar wres cymedrol am 40 munud. Rhowch y stêcs oen o'r neilltu a'u cadw'n gynnes. Yna lleihewch y saws ychydig cyn ychwanegu'r llus sy'n weddill. Pan mae croen y ffrwythau ar fin torri, arllwyswch y saws dros y cig a'i weini


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY