DULL
Rhowch y dail basil a'r cnau pîn mewn prosesydd bwyd bychan a phroseswch y cwbl tan fod y cyfan wedi ei falu'n fân. Ychwanegwch y caws wedi'i gratio a'r garlleg a phroseswch eto, yn arafach y tro hwn. Ychwanegwch yr olew olewydd tan fod y cymysgedd yn syrthio'n hawdd oddi ar lwy. Ychwanegwch ychydig o halen a phupur. Gweinwch gyda phrydau pasta, tatws pôb neu mewn brechdanau. Bydd yn cadw mewn potyn yn yr oergell am 2/3 wythnos.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley