dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CYW IAR GYDA STWFFIN PINAFAL

CYW IAR GYDA STWFFIN PINAFAL

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 4

CYNHWYSION

4 brest cyw iâr - heb groen
½ pinafal - wedi'i blicio a'i dorri'n fân
1 lemwnwelltyn - wedi'i dorri'n fân
2 cm/¾ " sinsir ffres - wedi'i gratio
1 llwy fwrdd o olew llysiau
1 pupur coch - wedi'i blicio a'i rostio
1 winwnsyn canolig - wedi'i blicio a'i dorri'n fân
½ chilli goch - heb hadau ac wedi'i dorri'n fân
6 tomato ffres - heb hadau, wedi'u plicio, a'u chwarteru
150 ml/¼ peint o stoc cyw iâr
150 ml/¼ peint o win gwyn
1 pecyn o goriander ffres - wedi ‘i dorri'n fân
halen a phupur
DULL
Cymysgwch y binafal, y lemonwellt a'r sinsir mewn bowlen fechan. Agorwch y ffiledi cyw iâr a rhowch nhw rhwng dau ddarn o haenen lynu. Fflatiwch nhw a rholbren. Tynnwch yr haenen lynu a rhowch y stwffin pinafal ar y cig. Rholiwch y ffiledi'n ofalus, gan sicrhau fod y stwffin wedi'i orchuddio gan y cyw iâr. Lapiwch y cyw iâr mewn haenen lynu newydd. Gwnewch barseli twt a stemiwch nhw am 15 munud. Yn y cyfamser, paratowch y saws gan dwymo'r olew mewn padell a chogio'r winwnsyn a'r garlleg am 3-4 munud. Ychwanegwch y chilli, tomatos a'r pupur a choginiwch am rai funudau cyn ychwanegu'r stoc a'r gwin. Lleihewch y saws tan ei fod wedi tewhau ychydig a bod y llysiau wedi coginio. Ychwanegwch halen a phupur os oes angen ac yna'r goriander ffres. Tynnwch yr haenen lynu ac arllwyswch saws dros y cyw iâr i weini.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY