dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CAWL TATO A SYFI

CAWL TATO A SYFI

CATEGORI : CAWL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

25g/1owns o fenyn Cymreig
1 winwnsyn - wedi'i sleisio'n fân
2 cennin - y darn gwyn yn unig wedi'u sleisio
1 litr/2 peint o stoc llysiau neu gyw iâr
450g/1 pwys o datws - wedi sleisio'n denau (heb ei goginio)
1 deilen bae dyrned o bersli ffres - wedi'i dorri'n fân
dyrned o gennin syfi (chives) ffres - wedi'i dorri'n fân
55 ml/2 owns hylif o hufen sengl
halen môn
pupur du

i weini
pecyn o greision ‘real crisps'
caws Cymreig wedi'i gratio
dyrned o bersli ffres
DULL
Mewn padell ddwfn neu sosban, toddwch y menyn a ffriwch y winwns a'r cennin o dan gaead (peidiwch â'u brownio). Ychwanegwch y stoc, tatws, deilen bae, halen a phupur a'u berwi nes bod y tatws yn toddi mewn i'r dwr. Gadewch i'r gymysgedd oeri cyn hylifo mewn prosesydd bwyd. Tra'n hylifo ychwanegwch y persli a'r syfi.Gweinwch mewn powlen gyda chreision wedi eu malu'n fan, dyrned o gaws ac ychydig o hufen.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY