DULL
Pliciwch a berwch y tato a'u malu yn dato stwmp. Mewn ffreipan, toddwch ychydig o'r menyn a ffriwch y cennin yn ysgafn gyda phupur du. Mewn powlen, cymysgwch y tato stwmp, y cennin, caws emanthal, caws gorgonzola, ac ychydig mwy o fenyn, halen a phupur gyda'r melynwy. Cymysgwch y cyfan yn dda a'u siapio yn gacennau. Twymwch olew olewydd mewn ffreipan a ffriwch y cacennau ar y ddwy ochr nes eu bod wedi brownio ychydig.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley