dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
WINWNSYN WEDI'I STWFFIO

WINWNSYN WEDI'I STWFFIO

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 4 - 6

CYNHWYSION

250g/8 owns o datws (pink fur apple) - wedi eu berwi
1 winwnsyn anferth (2.7kg/6lb os yn bosib)
olew olewydd
2 genhinen (neu 1 anferth) - wedi eu torri'n fân
3 ewin o arlleg - wedi sleisio'n denau
450g/1 pwys o mins cig oen Cymreig
450g/1 pwys o bannas - wedi'i dorri'n giwbiau
450g/1 pwys o foron - wedi eu torri'n giwbiau
725ml/1½ peint o stoc cig oen
dyrned o bersli ffres - wedi'i dorri'n fan
dyrned o saets ffres
dyrned o fasil ffres
dyrned o coriander
halen mon
pupur du
DULL
Mewn ffreipan ddwfn, ffriwch y cennin ac yna ychwanegwch y garlleg a'r mins a browniwch hwy. Yna, ychwanegwch y pannas, moron, halen a phupur a'r stoc. Mudferwch y cyfan dan gaead am 10 munud. Yna gweithiwch y perlysiau ffres drwy'r gymysgedd. Torrwch ben y winwnsyn anferth a thynnwch ganol y winwnsyn allan i ffurfio 'cragen'. Twymwch ychydig o'r olew mewn padell a ffriwch y winwns gyda phinsied o halen a phupur. Lapiwch ffoil o amgylch y 'gragen' a'i osod mewn sosban neu dun pobi. Adeiladwch haenau o gig yna tatws yna winwns am yn ail oddi mewn i'r 'gragen' gan orffen gyda trwch o gig. Defnyddiwch dop y winwnsyn yn gaead i'r ‘gragen', ei selio gyda'r ffoil a'i rostio yn y ffwrn ar wres o 160C am 30-40 munud.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY