dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
ESGYLL CATH FÔR A SAWS MOROCO

ESGYLL CATH FÔR A SAWS MOROCO

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4

CYNHWYSION

y pysgod
4 esgyll cath fôr (tua 250g/8 owns yr un)
4 llwy fwrdd o olew olewydd

y saws
5 ewin o arlleg - sleisio'n stribedi tenau
2 lwy fwrdd o olew olewydd
6 llwy fwrdd o finegr sieri
1 llwy de o baprica
halen môn
pupur du

i weini
1 lemwn - wedi chwarteru
½ llwy de o paprika
DULL
Y pysgod
Rhowch halen a phupur dros y pysgodyn. Twymwch yr olew mewn tun pobi dros y stôf a seliwch y pysgodyn ar y ddwy ochr. Pobwch yn y ffwrn ar wres uchel 220C am 10-12 munud.

Y saws
Mewn padell, ffriwch y garlleg mewn diferyn o olew. Ychwanegwch y paprika, y finegr sieri, halen a phupur. Gadewch i leihau. Gweinwch y saws yn dwym dros y pysgodyn gyda phinsied ysgafn o baprika a darn o lemwn.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY