DULL
Mewn padell ffrio, cynheswch yr olew a ffriwch y pwdin gwaed nes yn frown ar y ddwy ochr. Rhowch i'r ochr. Yn yr un badell, ffriwch y garlleg a'r hadau fennel i'w brownio ychydig gan fod yn ofalus rhag eu llosgi. Ychwanegwch y ffa, pinsied o bupur, stoc a mintus a choginiwch am ryw 3-4 munud nes bydd y ffa wedi coginio. Rhowch y pwdin gwaed nôl yn y badell ar ben y ffa a chynheswch dan gaead am 5 munud a rhowch y mint i fewn. Ychwanegwch halen a phupur a gweinwch yn syth.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley