DULL
Taenwch fenyn dros y tafelli o fara brith a thorrwch hwy yn hanner a'u gosod yn daclus mewn dysglau bychain neu ramekins unigol. Rhowch un tafell o fara brith heb fenyn i'r ochr.
Y cwstard
Mewn powlen, curwch y melynwy yn ffyrnig ac ychwanegwch y siwgr fesul dipyn. Mewn sosban, mudferwch y llaeth, yr hufen, a'r pod fanila a gadewch i'r gymysgedd oeri cyn arllwys y cyfan trwy ridyll gan barhau i gymysgu'n ffyrnig i ffurfio cwstard.
Arllwyswch y gymysgedd cwstard ar ben y bara brith gan lenwi'r ddysgl, Yna, gosodwch y dafell o fara brith heb fenyn ar y top. Coginiwch yn araf mewn tun rhostio hanner llawn o ddwr ar dymheredd o 160C am 30-45 munud.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley