dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
REIS SAFFRWM

REIS SAFFRWM

CATEGORI : CYRSIAU CYNTAF, PRYDAU AR YR OCHR A BYRBRYDAU

DIGON I : 4

CYNHWYSION

80g/3owns o fenyn heb halen
½ darn o sinamon
5 pod cardamom gwyrdd - wedi eu hollti
1 ewin o arlleg
3 puprennau du - torri'n fân
200g/7 owns o reis basmati - golchi & socian mewn dwr a halen am 3 awr
2 lwy fwrdd o gnau pistachio - torri'n fân
2 lwy fwrdd o resins
1 pinsied dda o linynnau saffrwn - wedi socian mewn 4 llwy fwrdd o ddwr berw
halen môn

i weini
200g/7 owns o iogwrt Groegaidd
1 ewin o arlleg - wedi malu
halen môn
pupur du
DULL
Toddwch y menyn mewn sosban fawr. Ychwanegwch y garlleg, sinamon, cardamom pods a'r grawn pupur du (peppercorns) a ffriwch ar wres isel am tua 4 munud. Hidlwch y reis basmati a'i ychwanegu at y cynhwysion twym. Trowch y gwres i fynu ac ychwanegwch y cnau pistachio, raisins, y saffrwn a digon o ddwr i orchuddio'r reis a phinsied dda o halen. Gosodwch ddarn o bapur ‘menyn' dros y reis a chaead ar y sosban. Dewch a'r cyfan i'r berw ac yna mudferwch am 5 munud. Tynnwch y papur 'menyn' ac ychwanegwch y dwr saffron dros y reis. Rhowch y papur a'r caead yn ôl, trowch y gwres i lawr a choginiwch am 4-5 munud ychwanegol. Ychwanegwch y garlleg a'r halen a phupur at y iogwrt a gweiniwch gyda'r pryd.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY