DULL
Mewn ffreipan, seliwch y cig yn yr olew. Rhowch halen, pupur a phaprika ar y cig ac ychwanegwch yr hadau cwmin a'r garlleg at y cig a'u brownio. Rhowch y cig i'r ochr. Gan ddefnyddio ffreipan y cig, cymysgwch y piwrî tomato gyda'r darnau bach o gig sy'n weddill ar waelod y badell, yna ychwanegwch y gwin a'i leihau. Ychwanegwch y stoc a mudferwch am tua 5 munud. Cymysgwch y coriander a chroen y lemwn i fewn i'r saws. Mewn padell ddwfn, meddalwch y llysiau mewn olew a gadewch iddynt chwysu dan gaead am ryw 3-4 munud. Rhowch y darnau o gig oen ar ben y llysiau ac arllwyswch y saws dros y cyfan. Coginiwch mewn ffwrn poeth (160C) am 2 awr. Ar ôl i'r cig goginio, hylifwch y llysiau i greu saws llyfn. Gweinwch gyda llysiau o'ch dewis.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley