DULL
Mewn sosban fawr o ddwr, berwch y cimwch am 15 - 20 munud a gadewch i oeri mewn dwr oer. Torrwch y cimwch yn ei hanner a rhyddhau'r cig o'r gynffon. Tynnwch y cig gwyn o'r crafangau a'i osod yn ôl yn y gragen. Gosodwch y cimwch mewn ffreipan neu ar 'tray' ac ychwanegwch halen a phupur, sudd y lemwn, persli a thywalltwch ychydig o olew olewydd. Coginiwch y cimwch o dan gril twym am 5 - 10 munud nes yn dwym. I weini, gosodwch hanner cimwch ar blât gyda salad o'ch dewis a darn o lemwn ffres.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley