DULL
Mewn sosban fawr, cynheswch yr olew a choginiwch y sinsir, lemon grass, winwns, chilli a'r dail leim am tua 2 funud. Arllwyswch y llaeth coconyt dros ben y cyfan a mudferwch am ychydig cyn ychwanegu'r stoc, nam pla, sudd y leim a'r coriander. Ychwanegwch y cregyn gleision at y cynhwysion. Rhowch gaead ar y sosban a choginiwch y cyfan nes i'r cregyn gleision agor (tua 2 funud). Gweinwch yn gynnes gyda dyrned o goriander ffres.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley