DULL
Y marinâd
Cymysgwch holl gynhwysion y marinâd mewn bowlen heblaw am y cyw iâr. Rhowch y cig yn y marinâd a gadewch yn yr oergell dros nos. Cynheswch ychydig o olew mewn ffreipan a choginiwch y darnau o gig (gallwch hefyd eu coginio o dan gril poeth neu ar farbeciw). Gallwch fwyta'r cyw iâr gyda salad heb y saws.
Y saws
Cynheswch yr olew mewn sosban neu ffreipan ddwfn. Ychwanegwch y past, y garlleg a'r sinsir a'u cynhesu cyn ychwanegu'r powdr chilli a'r chilli sych a'u coginio am tua 2 funud. Yna cyfunwch y piwrî tomato, tyrmerig, coriander, garam masala a'r cwmin a'u coginio ar wres isel am 5 munud gan fod yn ofalus rhag eu llosgi. Yn olaf, ychwanegwch y tomatos, y dwr, siwgr, chilli a llwyed o bâst madras a mudferwch hwy ar wres isel iawn am awr. Ychwanegwch y cyw iâr i'r sosban tua 5 munud cyn i'r awr ddod i ben er mwyn i'r cyw iâr gynhesu'n iawn. Gweinwch gyda reis.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley