dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CYW IÂR YR HA Y CARIBI

CYW IÂR YR HA Y CARIBI

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 4

CYNHWYSION

4 darn o gyw iâr
1 nytmeg - wedi'i gratio
2 ewin o arlleg - wedi eu sleisio
1 darn o sinsir ffres - wedi'i sleisio
1 pinafal - y sudd a'r ffrwyth
1 winwnsyn - wedi'i dorri'n fân
1 coconyt
1 llwy fwrdd o biwrî tomato
2 tomato ffres - wedi eu sleisio
1 tun o domatos
2 dato melys - wedi'i sleisio
2 fanana - wedi eu sleisio
olew llysiau
halen a phupur du
DULL
24 awr ar hugain o flaen llaw - taenwch halen, pupur ag ychydig o nytmeg dros y cyw iâr cyn rhoi torriadau bach ymhob darn. Rhwbiwch y darnau o sinsir a garlleg i'r torriadau. Gadewch i sefyll yn yr oergell dros nos. Ffriwch y winwns yn yr olew a rhowch i'r ochr. Coginiwch y cyw iâr, gan fod yn ofalus rhag ei losgi. Ychwanegwch y piwrî tomato, tomatos tun, pîn-afal a'r sudd, sudd y coconyt ac ychydig o'r coconyt ffres a choginiwch am tua 5-8 munud. Ffriwch y tatws melys a gweinwch gyda'r cyw iâr gydag ychydig o sleisys ffres o domatos.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY