DULL
Y tofu
Torrwch y stecen tofu i ddarnau cyfartal. Dipiwch yn y rice flour a ffriwch mewn olew nes eu bod wedi eu brownio. Cynheswch ychydig o olew mewn ffreipan a choginiwch y cennin a'r madarch am 2 funud.
Y saws
Cynheswch y saws soy, mirin, sake a'r siwgr mewn sosban a berwch. Gadewch i oeri. Cyfunwch y garlleg, saws chilli a'r winwns gyda'i gilydd ac ychwanegwch i'r gymysgedd sydd wedi'i oeri a chymysgwch yn dda.
Rhowch y tofu ar dop y llysiau a gweinwch gyda'r marinâd.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley