DULL
Mewn powlen gymysgu fawr, gorchuddiwch y couscous gyda'r stoc am tua 15 munud. Cynheswch ychydig o olew ac yna coginiwch y cyw iâr gydag un ewin o arlleg. Wedi eu coginio, cymerwch allan o'r badell a rhowch i un ochr. Cynheswch yr olew sesame ac ychydig o olew olewydd a choginiwch y winwns, garlleg a'r sinsir nes eu bod yn feddal. Ychwanegwch y courgette a'r pupur at y winwns a choginiwch am 2 funud ychwanegol. Pan fo'r couscous wedi yfed' y stoc, ychwanegwch 2 llwy fwrdd o olew olewydd a chymysgwch yn dda. Ychwanegwch y cynhwysion cynnes at y couscous a chymysgwch hwy yn dda, cyn ychwanegu'r basil, persli, tomatos a'r lemwn. Ychwanegwch halen a phupur i flasu.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley