dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CASEROL SOSEJ A FFA

CASEROL SOSEJ A FFA

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 8

CYNHWYSION

90g/2 bwys o selsig porc ffres - 2 selsig yr un
1 winwnsyn - wedi'i sleisio'n denau
3 ewin o arlleg - wedi eu torri'n fân
2 lwy fwrdd olew olewydd
2 ddarn o seleri - wedi eu torri'n fân
2 lwy fwrdd o biwrî tomato
1 potel o win coch da
dyrnaid o rhosmari ffres - wedi'u torri'n fân
2-4 chilli bach poeth (coch a gwyrdd) - wedi eu torri'n fân
1 tun o domatos
2 afal - wedi eu plicio a'u torri'n ddarnau bras
570ml/1 peint o stoc porc (neu gyw iâr)
1 tun o ffa cannellini
1 tun o ffa melyn (butter beans)
1 tun o ffa borlotti
225g/8 owns o fricyll sych - wedi eu torri'n fân
halen môn
pupur du
DULL
Mewn padell ffrio, browniwch y selsig. Tynnwch hwy allan o'r badell. Yn yr un badell, ffriwch y winwns, garlleg, seleri, piwrî tomato ac ychydig o halen a phupur a browniwch hwy am ychydig funudau. Ychwanegwch y gwin coch, rhosmari a'r chillis a gadewch i ferwi eu bod wedi lleihau a chreu saws trwchus. Trosglwyddwch y cyfan i sosban fawr ac ychwanegwch y tomatos, afalau, y stoc a'r gwahanol fathau o ffa a'u cymysgu'n dda. Rhowch y selsig nôl yn y sosban gyda'r bricyll a chymysgwch y cyfan. Coginiwch y cyfan dan gaead yn araf am awr i awr a hanner. Gweinwch yn gynnes gyda thatws stwmp.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY