Neidio at y cynnwys

S4C
Dudley Newbery

Yn y ddwy raglen, cawn weld wyth o wynebau amlwg Cymru yn mynd i'r afael â'r sgil o goginio'n broffesiynol dan lygaid barcud Dudley Newbery a'i gyd-feirniad, y chef talentog Bryn Williams, perchennog bwyty Odettes yn Llundain. Mi gânt wybod mwy hefyd am y bwyd ar eu plât, a'r cynnyrch o safon uchel sydd gennym yng Nghymru.

Cyfarfod y sêr - Cyfres 2009

  • Angharad Mair

    Angharad Mair

    Angharad Mair yw un o wynebau mwyaf adnabyddus darlledu yng Nghymru. Mae hi'n gyflwynydd, cynhyrchydd a cholofnydd ac Angharad hefyd yw Golygydd y rhaglen gylchgrawn nosweithiol, Wedi 7.

  • Derwyn Jones

    Derwyn Jones

    Enillodd Derwyn 19 o gapiau i Gymru a bu'n chwarae rygbi i Gaerdydd tan 2000. Heddiw mae'n gyfarwyddwr dau gwmni ac yn ddarlledwr cyson fel sylwebydd ar gemau rygbi ac ar Y Clwb Rygbi ar S4C.

  • Dewi Morris

    Dewi 'Pws' Morris

    Cerddor, actor a digrifwr yw Dewi 'Pws' Morris. Mae'n disgrifio'r holl beth fel 'profiad erchyll'. "Ond," meddai, "fe wnes i fwynhau e mewn rhyw ffordd fasocistaidd."

  • Elfed Roberts

    Elfed Roberts

    Elfed Roberts yw Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae Elfed yn enedigol o Benygroes, Dyffryn Nantlle. Mae wedi bod yn Brif Weithredwr yr Eisteddfod ers 1993 ac mae'n byw yng Nghaerdydd.

  • Elin Fflur

    Elin Fflur

    Cantores boblogaidd o Lanfairpwll, Sir Fôn, yw Elin Fflur. Hi wnaeth berfformio cân fuddugol Cân i Gymru yn 2002 ac mae hi hefyd yn cyflwyno Nodyn ar S4C.

  • Sian Lloyd

    Siân Lloyd

    Mae'r cyflwynydd tywydd Siân Lloyd yn dod yn wreiddiol o Faesteg, ac mae hi nawr yn byw ger Y Drenewydd. Ond chaiff hi ddim cyfle i ymarfer ei sgiliau coginio newydd dros yr Ŵyl gan ei bod hi'n cyflwyno'r tywydd am chwech diwrnod o'r bron.

  • Siw Hughes

    Siw Hughes

    Mae Siw Hughes yn dod yn wreiddiol o Langefni ac mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Kath Jones yn Pobol y Cwm. Mae Siw hefyd wedi ymddangos mewn llawer o raglenni eraill fel Ffalabalam, Caryl, Heno Heno a Codi Pais.

  • Tydur Dylan

    Tudur Dylan

    Enillydd Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a'r goron yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn 2005. Mae Tudur Dylan, a fagwyd ym Mangor, yn athro yn Ysgol y Strade, Llanelli ac yn byw yng Nghaerfyrddin.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales