Dros gyfnod yr Ŵyl bydd y cogydd Dudley Newbery yn herio sgiliau coginio rhai o sêr Cymru.
Dros dair rhaglen arbennig bydd wyth o wynebau cyfarwydd Cymru yn mynd ar wibdaith fwyd o amgylch Cymru. Yn ystod y daith byddant yn wynebu cyfres o sialensiau coginio heb wybod beth sydd o'u blaenau nag i ble y byddan nhw'n mynd. Fydd hi ddim yn hawdd, gyda dyddiau hir o sialensiau a choginio bydd digon o ddagrau - o lawenydd a thristwch - ac ambell ffrae yn tanio o dan y pwysau.
Cyfarfod y sêr
-

Lauren Phillips
-

Julian Lewis Jones
-

Gillian Elisa
-

Aled Hall
-

Heledd Cynwal
-

Ifan Jones Evans
-

Malcolm Allen
-

Siân Thomas
