Neidio at y cynnwys

S4C
Dudley Newbery

Dudley'n gosod yr her anoddaf erioed wrth i wyth seren fentro i'r gegin.

Yn nosweithiol rhwng 27 a 30 Rhagfyr, bydd y gyfres Dudley: Pryd o Sêr yn rhoi her a hanner i griw o selebs fyddai'n gwneud i'r cogydd mwyaf profiadol grynu yn ei ffedog.

Yr wyth seren ddewr sy'n camu i'r ffau yw: Miss Cymru 2010, Courtney Hamilton; yr actor Steffan Rhodri; Siân Lloyd, y darlledwr newyddion; yr actores Ffion Dafis; y cyflwynydd Rhodri Ogwen Williams; Hywel Davies y joci; y cyn AC Eleanor Burnham; ac un o fechgyn Only Men Aloud, Wyn Davies.

Bydd Dudley yn cadw llygad barcud ar bob cam o'r cystadlu a'i fwriad yw creu cogyddion gwerth eu halen o'r wyth.

Cyfarfod y sêr

  • Wyn Davies

    Wyn Davies

    Os wyt ti yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth yna does dim pwynt bod yno os nad wyt ti eisiau ennill!

  • Steffan Rhodri

    Steffan Rhodri

    Doedd dim syniad 'da ni beth oedd yn digwydd nesa! A doedd y tasgau ddim i gyd am ba mor dda oeddech chi'n gallu coginio.

  • Sian Lloyd

    Sian Lloyd

    Roeddwn yn disgwyl bod yn rhan o gystadleuaeth goginio ond roedd y tasgau yn mynd yn lot pellach na'r gegin, ac roedd un her yn gyfle i mi goncro ofn mawr!

  • Rhodri Ogwen Williams

    Rhodri Ogwen Williams

    Roeddwn i'n arfer meddwl y bydden i'n hoffi gwithio mewn cegin, ond dwi wedi newid fy meddwl yn llwyr diolch i dasgau Dudley!

  • Hywel Davies

    Hywel Davies

    Dwi'n gallu coginio cinio dydd Sul, a dwi'n eithaf da ar goginio wye. Ond dwi ddim yn ymdopi'n dda o dan bwyse!

  • Ffion Dafis

    Ffion Dafis

    Dwi yn gystadleuol yn fy maes fy hun ac wastad isho gwneud fy ngore, ond wnes ibyth meddwl y bydden ni'n cymryd cystadleuaeth goginio mor o ddifri!

  • Eleanor Burnham

    Eleanor Burnham

    Dwiyn gystadleuol, yn dawel fach. Er bod y tasgau yna anodd doedden nhw ddim hanner mor galed a gweithio ym myd gwleidyddiaeth!

  • Courtenay Hamilton

    Courtenay Hamilton

    Dwi'n cyfaddef nad oeddwn i'n coginio llawer cyn ffilmio'r rhaglen. Roedd gweddill y tîm yn amyneddgar iawn yn ystod y tasgau!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales