Neidio at y cynnwys

S4C

100 Lle

100 Lle

Rhai o lefydd gorau Cymru ar S4C

Mae'r gyfres 100 Lle yn dychwelyd i S4C nos Fawrth, 16 Awst gan ein tywys i fwy o lefydd arbennig drwy Gymru benbaladr. Mae'r gyfres yn seiliedig ar y llyfr 'Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw' gan yr hanesydd Dr John Davies a'r ffotograffydd Marian Delyth, cyfrol a enillodd deitl Llyfr y Flwyddyn yn 2010.

Meddai Aled Samuel, sy'n cyflwyno'r gyfres, "Os yw'r llyfr 100 Lle wedi llwyddo i wneud unrhywbeth, mae e wedi llwyddo i ddod â ni'r Cymry'n agosach at Gymru, ac wedi datgelu rhyfeddodau i ni efallai ro'n ni'n rhy ddall i weld yn gynt."

Yn y rhifyn cyntaf nos Fawrth, 16 Awst, bydd Aled yn ymweld â Harlech, Portmeirion, Y Trallwng, Trefaldwyn a Phennant Melangell. Bydd e'n siarad â Dr John Davies a Marian Delyth am eu rhesymau dros ddewis y llefydd hyn.

Bydd Marian yn dehongli o ble daeth yr ysbrydoliaeth i dynnu lluniau mor urddasol o bentref Portmeirion, a'i theimladau personol tuag at y lle.

"Byddai rhywun yn gallu treulio tridiau yn crwydro rhyw gilfachau cudd yn ffeindio delweddau, ac alla i ddim meddwl am ddim byd gwell i'w wneud. Dwi wastad yn gweld y lle fel rhyw ynys fach o fôr y Canoldir ynghudd ynghanol Eifionydd, ac yn berl o le."

Bydd Aled, yng nghwmni Dr John Davies, hefyd yn ymweld â llond llaw o gestyll mawreddog, yn cynnwys cestyll Harlech, Powis a Threfaldwyn. Cawn glywed yr helynt y tu ôl i bob castell a phlasdy, a'r hanesion brenhinol a gwleidyddol sydd ynghlwm â'r adeiladau yma.

"Fe ellir dadlau nad y castell na hen domen Rhyd Chwima yw prif ogoniant yr ardal yma," meddai Dr John Davies am gastell Trefaldwyn. "Y prif ogoniant yw tref Trefaldwyn ei hun, sydd wedi bod yn pendwmpian mewn heddwch yn y cornel gwyrdd 'ma o Sir Drefaldwyn ers canrifoedd erbyn hyn."

Yr wythnos ganlynol, bydd y rhaglen yn ymweld â De Cymru. Cawn deithio i Gastell Caerffili a Chastell Coch, mynd ar daith weledol i Bontypridd a mwynhau ymweliad â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru a Chadeirlan Llandaf yng Nghaerdydd.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales