S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Ffeithiol

Ar gael nawr

  • Cais Quinnell

    Cais Quinnell

    Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Scott Quinnell yn mynd ar daith ar hyd a lled Cymru, yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth iddo siarad hefo'r bobl leol ac ambell wyneb cyfarwydd. Ac wrth gwrs bydd personoliaeth heintus Scott yn siwr o sicrhau llond bol o hwyl yn y broses. Yr wythnos hon mae'n rhoi cynnig ar nofio awyr agored yng nghwmni Lisa Jên, yn helpu mewn parc anifeiliaid, ac yn rhoi

  • Ar Brawf

    Ar Brawf

    Rhaid i Darren gydymffurfio â thag cyrffyw rhwng 7pm a 7am a phrofion cyffuriau ar hap er mwyn osgoi cael ei anfon yn ôl i'r carchar. Mae gan Chloe hanes gwael o ddod i'w hapwyntiadau ac mae hi mewn perygl o gael ei gyrru'r llys eto. Nerys a Jo ydy'r Swyddogion Gwasanaeth Prawf sy'n gorfod rheoli ymddygiad y ddau yn y gymuned er mwyn ceisio'u hatal rhag troseddu eto, a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.

  • Ar Werth

    Ar Werth

    Dilynwn rai o werthwyr tai amlycaf Cymru gan brofi'r holl emosiwn a'r ddrama sy'n dod gyda rhoi ty ar werth.

  • None

    Strip

    Mae criw o stripwyr yn anelu at roi Rhyl yn ôl ar y map gyda'u clybiau strip unigryw.

  • Y Gêm

    Y Gêm

    Y tro hwn, mae Owain Tudur Jones yn siarad gyda'r chwaraewr dartiau, Jonny Clayton.

  • Ffermio

    Ffermio

    Daw fferm Shadog yn fyw wrth i Gary a Meinir gynnal taith dractorau ar y cyd gyda chyngerdd fawreddog o fuarth y fferm. Hefyd fe fyddwn yn dathlu'r Nadolig gyda'r teulu bach. Ydy'r plant wedi bod yn blant da eleni' A fydd Sion Corn wedi plesio Sioned a Dafydd ar fore'r 'Dolig tybed'

  • Sain Ffagan Cyfres 2

    Sain Ffagan Cyfres 2

    Dychwelwn i Sain Ffagan i ddatgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae hi'n ddiwrnod prysuraf y flwyddyn yn yr Amgueddfa wrth i ddegau o filoedd o ymwelwyr gyrraedd i fwynhau'r ŵyl fwyd. Mae atgyfodiad Gwesty'r Vulcan yn parhau wrth i'r to fynd yn ei le ac mae'r ffenestri lliw yn cael ail-fywyd.

  • Mwy o Ffeithiol

    Mwy o Ffeithiol

    Cliciwch isod i weld mwy o raglenni Ffeithiol S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?