S4C

Close
Flash is required to view this video

999: Ambiwlans Awyr Cymru

999: Ambiwlans Awyr Cymru

Gwaith Ambiwlans Awyr Cymru yn achub a newid bywydau

Mae rhywun angen cymorth meddygol ar frys bob dydd a gyda phob eiliad yn cyfri wrth gludo claf i'r ysbyty mae'n rhaid galw Ambiwlans Awyr Cymru.

Bydd y gyfres 999: Ambiwlans Awyr Cymru sy'n dechrau nos Iau, 11 Hydref ar S4C yn dilyn gwaith yr hofrenyddion o ddydd i ddydd. Byddwn yn ymuno â nhw ar alwadau brys, yn dod i adnabod y peilotiaid a'r parafeddygon ac yn sgwrsio â phobl sy'n fyw heddiw oherwydd eu cymorth.

Yn y rhaglen gyntaf, mae'r hofrennydd yn rhuthro i helpu Malcome Hoyle, 65 o Wrecsam, a gafodd ddamwain ffordd ddifrifol ym Metws y Coed. Mae'r criw hefyd yn helpu i gludo Jackie Lewis, 32 o bentref Caergeiliog, Sir Fôn, i'r ysbyty wedi iddi gwympo lawr y grisiau yn ei chartref. A chawn ddod i adnabod Alwyn Roberts, parafeddyg o Ynys Môn a oedd ymhlith y criw cynta' i weithio gyda'r Ambiwlans Awyr yn y gogledd.

Byddwn hefyd yn ail fyw achos difrifol a ddigwyddodd rai blynyddoedd yn ôl sydd wedi aros yng nghof y tîm yng ngorsaf Abertawe.

Pan roedd yn 12 oed, cafodd Nick Richards-Ozzati, o Langennech ger Llanelli, ei daro oddi ar ei feic. Roedd ei anafiadau mor ddifrifol, doedd y parafeddygon ddim yn credu y byddai'r bachgen yn goroesi.

"Ro'n i mewn coma ac wedi torri'r fertebra C1 a C2 yn fy ngwddf," meddai Nick, sydd nawr yn 21 oed. "'Ro'n i wedi torri pont yr ysgwydd a'r ên ac ro'n i hefyd wedi cael haemorrhage ar yr ymennydd a'r asgwrn cefn. Ges i sawl CT scan ac mae gen i screws a phlatiau metel yn dal fy mhen i'r corff. Fi moyn diolch i'r nyrsys ac i'r Ambiwlans Awyr am fy helpu i."

Oherwydd ei brofiad y diwrnod hwnnw, mae Nick wedi hyfforddi mewn cymorth cyntaf ac yn un o Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned yn ardal Llangennech. Mae hefyd yn gweithio yn swyddfa alwadau brys y Gwasanaeth Ambiwlans, yn cydweithio â'r tîm wnaeth achub ei fywyd.

"Pan glywais i fod e wedi byw ro'n i mor falch," meddai'r parafeddyg Mel Thomas. "Mae e'n ein bwrw ni gymaint gwaeth pan maen nhw'n blant. Ond, i'w weld e nawr a meddwl sut roedd e pan gafodd e'r ddamwain, mae e'n brilliant. Ni'n siarad nawr fel dau gyd-weithiwr."