S4C

Close
Flash is required to view this video

999: Y Glas

999: Y Glas

  • Nos Iau 20 Medi 9.00

Nôl ar y bît yn Abertawe gyda 999: Y Glas

Dewch am dro ar y bît gyda Heddlu De Cymru yn Abertawe a'r cyffiniau wrth i'r gyfres 999: Y Glas gynnig mynediad i bob twll a chornel i'w gwaith bob dydd.

Dyma gyfres fydd yn rhoi darlun ecsgliwsif a gonest o waith yr heddlu wrth iddynt frwydro ar y llinell flaen yn erbyn torcyfraith. Darlledir y bennod gyntaf ar nos Iau 20 Medi wrth inni gymryd cip tu ôl i'r llenni ar y pencadlys yng nghanol dinas Abertawe a chyfarfod â'r rheini sy'n ymateb i alwadau brys, Ditectifs CID ac Uned Rheoli'r Cyhoedd.

Cyffuriau sy'n mynnu cryn dipyn o sylw'r 579 o heddweision yn yr ardal o ddydd-i-ddydd. Gyda chyffuriau fel cocaine, cannabis, heroin ac amffetamins ar gael ar y strydoedd, mae'n broblem sydd ar gynnydd yn Abertawe.

Llynedd, fe aeth dros 5,000 o bobl yn Abertawe o flaen eu gwell yn y llysoedd am droseddau'n ymwneud â chyffuriau.

"Mae'n amlwg bod gan bobl sy'n defnyddio cyffuriau trwy'r amser lot o tolerance gan bo nhw wedi bod yn cymryd cyffuriau am flynyddoedd. Maen nhw'n gwthio ymhellach ac yn trio cael mwy ac yn y pen draw dyw'r corff ddim yn gallu goddef yr holl gyffuriau maen nhw'n gymryd," meddai Cwnstabl Huw Toghill.

Yn ddiweddar mae yna gynnydd yn y nifer sy'n defnyddio methadone - neu Meow Meow - yn Abertawe ac sy'n achosi cur pen i swyddogion yr heddlu.

"Does 'na ddim middle ground gyda'r cyffur Meow Meow. Maen nhw naill ai'n mynd yn wyllt neu maen nhw'n teimlo'n isel iawn."

Er mwyn taclo'r frwydr yn erbyn cyffuriau, mae Heddlu De Cymru wedi creu timoedd arbenigol i gasglu gwybodaeth er mwyn atal y cyffuriau rhag cyrraedd y strydoedd.

Gyda thafarndai a chlybiau nos Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot yn llawn bob penwythnos, mae yna risg uchel o brynu, gwerthu a chymryd cyffuriau. Cawn fynediad i shifft 'After Dark' ar nos Sadwrn llawn helynt yn y ddinas lle mae swyddogion y shifft prynhawn yn aros ymlaen i weithio tan oriau man y bore er mwyn helpu cadw trefn ar y rheini dan ddylanwad alcohol a chyffuriau ar strydoedd prysuraf y ddinas.

Ond nid cyffuriau'n unig fydd yn hawlio sylw'r criw o heddlu yn ystod y gyfres.

Yn sgil y terfysgoedd yn Llundain a dinasoedd eraill ym mis Awst 2011, mae heddlu De Cymru wedi bod yn cael hyfforddiant ychwanegol rhag ofn i sefyllfaoedd tebyg godi yn y dyfodol. Yn y rhaglenni nesaf, cawn weld y criw yn yr ymarferion pwrpasol yn brwydro yn erbyn terfysgwyr, brics a bomiau petrol.

  • Nos Iau 20 Medi 9.00