Neidio at y cynnwys

S4C

Adrodd: Yr Hanes

Adrodd: Yr Hanes

Mae rhaglen arbennig sy'n bwrw golwg ar ddatblygiad traddodiad yng Nghymru sy'n mynd nôl i gyfnod yr Oesoedd Canol yn dangos fod y dadlau am y grefft yn parhau hyd heddiw.

Yn y rhaglen, Adrodd: yr Hanes, gan griw cynhyrchu'r Sioe Gelf, mae Lisa Gwilym yn dilyn datblygiad y grefft o adrodd yng Nghymru. Mae'n nodi rhai newidiadau pwysig ar hyd y ffordd, gan gynnwys yr un syfrdanol ym 1992, pan ddisodlwyd yr adrodd gan y llefaru.

Mae'r cam hwn, sy'n golygu fod mwy o symud ar lwyfan yn cael ei ganiatáu, yn ogystal â'r defnydd o props, wedi hollti barn.

Meddai'r Prifardd Aled Gwyn, "Bradychwyd canrifoedd o draddodiad yn yr iaith Gymraeg o ddyddiau'r cyfarwydd ac mae angen ei gael yn ôl. Mae rhyw ystumiau wedi dod i mewn i'r grefft a'r geiriau'n diflannu. Mae cynildeb wedi mynd allan trwy'r ffenestr."

Ac meddai'r actores o Fôn, Marged Esli, "Mae disodli'r adrodd gyda'r llefaru bron fel ein bod yn dangos cywilydd o'r hyn sydd wedi bod, ac ein bod yn ail becynnu rhywbeth oedd yn berffaith fel ag yr oedd o."

Mae'r actores Manon Elis Jones yn anghytuno, ac yn teimlo fod y datblygiad wedi bod er gwell. "Y perygl efo adrodd oedd bod pobol yn gorwneud. Dwi'n meddwl bod cael gwared ar y gair adrodd yn bwysig," meddai.

Mae Alun Jones, a berswadiodd Bwyllgor Canolog yr Urdd i dderbyn y drefn newydd o lefaru ar y llwyfan eisteddfodol, yn esbonio ei resymau am gyflwyno'r newid sydd wedi gweddnewid y grefft yng Nghymru. "Roeddwn i'n teimlo fod yr adrodd wedi mynd i rigol, o ran y partïon ac unigolion," meddai.

Mae'r dull o adrodd wedi newid a datblygu dros y blynyddoedd, ond mae un peth yn ddigyfnewid. Mae Gwobr Llwyd o'r Bryn yn yr Eisteddfod Genedlaethol - Rhuban Glas y llefarwyr - yn parhau i fod yn wobr hynod o bwysig. Enillodd y Prifardd T. James Jones y wobr yn 1966, ac mae'n hel atgofion am ei gamp.

Wedi camu ar y llwyfan a datgan pa gerdd oedd am ei chyflwyno, sylweddolodd ei fod wedi anghofio'r gair gyntaf yn ei ddatganiad. Oedodd, ac yn rhyfeddol daeth y gair i'w feddwl ac fe achubwyd y dydd.

"Yn ei feirniadaeth, dywedodd y beirniad, W H Roberts, fod y saib dramatig ar ddechrau'r darn gosod yn effeithiol tu hwnt!" meddai T. James Jones gyda gwên.

Hel atgofion bydd y prifardd Dic Jones hefyd yr wythnos hon yng nghwmni Heledd Cynwal yn y rhaglen Cofio. Ymysg y pytiau o raglenni teledu'r gorffennol a welwn bydd un yn dangos Dic yn cael ei groesawu gartre ar ôl ennill y gadair yn yr Eisteddfod yn 1966.

Saith o feirdd ifanc fydd yn cael eu portreadu yn y rhaglen Saith Bardd nos Fawrth. Bydd cyfle inni ddod i'w hadnabod yn well, ac i wrando arnynt yn trafod barddoniaeth a'u perthynas â'i gilydd. Y saith ydy Iwan Rhys, Aneirin Karadog, Hywel Griffiths, Eurig Salisbury, Catrin Dafydd, Osian Rhys a Rhys Iorwerth.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales